Cyswllt £500m i faes awyr
- Cyhoeddwyd

Mae cyswllt rheilffordd i Faes Awyr Heathrow ar gost o £500m wedi cael ei gymeradwyo.
Bydd hyn yn golygu taith hyd at hanner awr yn llai o dde Cymru gan na fydd angen mynd i Reading na Llundain Paddington.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, y byddai'n "hwb i economi Cymru".
Mae'r cyswllt yn rhan o gynlluniau Llywodraeth San Steffan ar gyfer hedfan cynaliadwy a gallai ddod i rym erbyn 2021.
'Ariannu'
Mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Justine Greening, wedi dweud: "Byddwn yn ariannu rheilffordd newydd o brif lein y Great Western ger Slough i Heathrow allai wella cysylltiadau o Gymru a Gorllewin Lloegr."
Dywedodd Stuart Cole, Athro Trafnidiaeth Prifysgol Morgannwg, y byddai'r cynllun yn lleihau amseroedd teithio.
"Mae cyrraedd Heathrow'n gynt yn golygu mwy o gyfleoedd buddsoddi i fusnesau newydd.
"Ond fe allai Maes Awyr Caerdydd fod yn llai cystadleuol ..."
Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Heather Joyce, fod y newyddion yn wych.
"Bydd trigolion Caerdydd a'r cylch yn gallu cyrraedd un o feysydd awyr mwya'r byd yn gynt."