Glaw a llifogydd posib ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus am lifogydd lleol wrth i law trwm ddychwelyd i rannau helaeth o Gymru ddydd Gwener.
Bydd cawodydd trymion yn taro'r rhan fwyaf o dde a chanolbarth Cymru brynhawn Gwener, ac yn parhau gyda'r nos.
Mewn rhai ardaloedd mae disgwyl i hyd at 30mm o law ddisgyn mewn cyfnod byr iawn, ac fe allai hyn arwain at lifogydd lleol oherwydd draeniau'n gorlifo, a dŵr ar wyneb y ffyrdd.
Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd eu bod yn monitro'r tywydd a lefelau afonydd ac y byddan nhw'n cyhoeddi rhybuddion mwy penodol fel bo'r angen.
Eisoes mae swyddogion yr Asiantaeth wedi bod allan yn gwirio'r amddiffynfeydd rhag llifogydd.
Daeth rhybudd hefyd i bobl beidio â cherdded na gyrru drwy ddŵr llifogydd, gan fod risg i iechyd wrth wneud hynny.
Bydd amgylchiadau gyrru yn beryglus mewn sawl man ddydd Gwener.
Y cyngor gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yw i bobl wrando ar ddarllediadau tywydd am y wybodaeth ddiweddaraf yn eu hardaloedd nhw.
Gall pobl hefyd ymweld â gwefan yr Asiantaeth am wybodaeth, neu ffonio'r llinell gymorth arbennig ar 0845 988 1188.
Straeon perthnasol
- 8 Gorffennaf 2012
- 11 Mehefin 2012
- 20 Mehefin 2012