Llanelli yn methu o drwch blewyn

Image caption Rheolwr Llanelli, Andy Legg

Llanelli 1-1 KuPS

Mae Llanelli wedi methu â chyrraedd ail rownd rhagbrofol Cynghrair Europa yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn KuPS o'r Ffindir.

Byddai canlyniad 1-0 yn ddigon ar Barc Stebonheath i fynd â Llanelli drwodd ar y rheol goliau oddi cartref. Collodd Llanelli o 2-1 yn y Ffindir wythnos yn ôl.

Roedd Llanelli yn feistri corn ar KuPS yn hanner cynta'r ail gymal nos Iau.

Fe gafon nhw lawer mwy o ergydion at y gôl, a llawer o'r meddiant, ond di-sgôr oedd hi ar yr egwyl.

Roedd angen cic o'r smotyn arnyn nhw i fynd ar y blaen.

Jason Bowen gafodd ei faglu yn y cwrt wedi pum munud o'r ail hanner, a Luke Bowen gamodd ymlaen i rwydo'n hyderus.

Wedi hynny, fe fywiogodd yr ymwelwyr, gan greu sawl cyfle.

Fe dalodd hynny ar ei ganfed pan ddaeth KuPS yn gyfartal wedi awr o chwarae.

Aleksi Paananen rwydodd, ac roedd hynny'n golygu bod angen dwy gôl arall ar Lanelli i fynd drwodd heb fynd i amser ychwanegol.

Ond wrth iddyn nhw daflu pawb ymlaen i geisio gwneud hynny, daeth sawl cyfle da eto i KuPS ac fe ddylai Obiefule fod wedi sgorio ddwywaith o fewn munud iddyn nhw.

Yn y munudau olaf, daeh cyfleoedd da i'r ddau dîm, ond roedd y ddau hefyd yn wastraffus o flaen gôl, ac fe orffennodd hi'n gyfartal.