Hacio cyfrifiaduron: Arestio dyn yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau o dan y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 a'r Ddeddf Camddefnydd Cyfrifiaduron 1990
Mae dyn wedi ei arestio yng Nghaerdydd wrth i Heddlu Scotland Yard ymchwilio i hacio cyfrifiaduron.
Fe gafodd y dyn 55 oed ei arestio yn ei gartref fore Gwener ar amheuaeth o gyflawni troseddau o dan y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 a'r Ddeddf Camddefnydd Cyfrifiaduron 1990.
Fe yw'r chweched yn y DU i gael ei arestio mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.
Dywedodd yr heddlu nad oedd yr arestio'n "uniongyrchol gysylltiedig ag unrhyw sefydliad newyddion na gweithredoedd newyddiadurwyr".