Gwasanaeth bws yn ail-ddechrau yng Ngheredigion
- Published
Bydd gwasanaeth bws y 'Cardi Bach' sy'n cael ei redeg gan Gyngor Sir Ceredigion ar hyd arfordir de Ceredigion yn rhedeg eto.
Lansiwyd y gwasanaeth yn 2004 i gysylltu pentrefi ar hyd arfordir de Ceredigion rhwng y Cei Newydd ac Aberteifi.
Yn 2011 cafodd Cyngor Ceredigion gyllid gan Gynllun Datblygu Gwledig yr Undeb Ewropeaidd i weithredu'r gwasanaeth bws trwy gydol y flwyddyn.
Bydd y gwasanaeth yn cysylltu trefi, pentrefi a thraethau rhwng Aberteifi a Chei Newydd.
Casglu teithwyr
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion y bydd y gwasanaeth sy'n rhedeg yn ddyddiol o Orffennaf 16 ymlaen.
"Mae'r gwasanaeth yn boblogaidd iawn gyda cherddwyr Llwybr Arfordir Ceredigion yn rhedeg chwe diwrnod yr wythnos dros fisoedd yr haf a thri diwrnod yr wythnos yn y gaeaf."
Bydd y gwasanaeth yn rhedeg bob dydd ar wahân i ddydd Mercher rhwng Gorffennaf 16 a Hydref 31, ac ar ddyddiau Llun, Iau a Sadwrn rhwng Tachwedd 1 a Rhagfyr 31 - ar wahân i Ragfyr 24.
Gellir dal y bws mewn unrhyw fan cyfleus ar hyd y daith lle ei bod yn ddiogel i wneud hynny.
Bydd y bws hefyd yn casglu teithwyr o'u cartrefi neu fan cyfleus arall o fewn ardal benodol - rhaid bwcio'r gwasanaeth hwn ymlaen llaw trwy'r cwmni bws nid hwyrach na 12.30pm ar y diwrnod cyn y siwrne.
Yn ôl Cyngor Ceredigion dylai grwpiau drefnu ymlaen llaw.
Fe gafodd y gwasanaeth ei lansio am y tro cyntaf yn 2004 cyn dod i ben yn 2006 oherwydd trafferthion ariannol.
Ond cafodd ei gyflwyno bob haf ers hynny tan 2011.
Mae'r gwasanaeth yn ddefnyddiol i'r rhai sy'n cerdded ar hyd y llwybr arfordirol gafodd ei agor yn 2008.
Yn ôl arolwg y cyngor, roedd 66,000 - 19% yn fwy - yn cerdded ar y llwybr rhwng Awst 2009 ac Awst 2010.
Straeon perthnasol
- Published
- 14 Mehefin 2011
- Published
- 8 Hydref 2011