Greene yn ail unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
Dai GreeneFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Greene yn ymddangos ar ei orau ym Mharis wythnos yn ôl wrth redeg ei amser gorau erioed o 47.84 eiliad

Yn ei ras olaf cyn y Gemau Olympaidd, daeth Dai Greene yn ail yn ras y 400m dros y clwydi yn rasus y Diamond League yn Llundain nos Wener.

Roedd Greene yn ymddangos ar ei orau ym Mharis wythnos yn ôl wrth redeg ei amser gorau erioed o 47.84 eiliad.

Nos Wener yn Crystal Palace, roedd Javier Coulson o Puerto Rico yn gynt na hynny, gan ennill y ras mewn 47.78 eiliad, gyda Greene yn ail mewn amser o 48.10.

Roedd Greene yn siomedig, ond eto'n obeithiol a dywedodd: "Roeddwn i wedi gobeithio am ychydig bach mwy, ac fe fyddwn i wedi bod wrth fy modd ennill o flaen y cefnogwyr cartref.

"Mae fy nghyflymder eithaf wedi bod yn well yn ddiweddar, ond mae angen gwella eto, a gobeithio y gallaf gael popeth yn iawn erbyn y Gemau Olympaidd.

Angelo Taylor o'r Unol Daleithiau oedd yn drydydd gyda Jack Green, sydd hefyd yn aelod o Team GB ar gyfer Llundain, yn bedwerydd.

Roedd siom i Bershawn Jackson - cyn bencampwr y byd ar ddau achlysur - pan gafodd ei ddiarddel o'r ras nos Wener.