Gwyddonwyr yn taflu goleuni ar glefyd 'dychryn'
- Cyhoeddwyd

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi helpu adnabod ail brif achos o glefyd 'dychryn' sy'n gallu achosi marwolaethau ymhlith babanod newydd-anedig.
Mae clefyd 'dychryn' - a adnabyddir hefyd fel hyperekplexia - wedi'i nodweddu gan ymateb gormodol i symbylyddion annisgwyl, megis cyffwrdd neu synau uchel.
Gellir datgelu'r ymateb dychryn fel cynnydd abnormal mewn tensiwn cyhyrol sy'n achosi anhyblygedd ac anallu i symud.
Yn ystod y cyfnodau anhyblygedd hyn, gall anadlu beidio am funudau ar y tro.
Ail enyn
Er ei fod yn brin, gall yr anhwylder hwn gael effaith ddifrifol ar fabanod, gan gynnwys marwolaeth.
Yn y gorffennol, ystyrir mai newidiadau mewn un genyn arbennig oedd unig brif achosi yr anhwylder.
Fodd bynnag, mae astudiaeth newydd, a arweinir gan yr Athro Mark Rees, Dr Seo Kyung Chung a Dr Rhys Thomas yn ILS, Coleg Meddygaeth, Prifysgol Abertawe a'r Athro Robert Harvey o Ysgol Fferylliaeth UCL wedi adnabod nifer o newidiadau newydd mewn genyn arall mewn 21 achos o'r DU, Awstralia, Canada, Ffrainc, Yr Eidal, Iorddonen, Yr Iseldiroedd, Portiwgal, Sbaen ac UDA.
Gwnaeth y canfyddiadau hyn adnabod yr ail enyn (GlyT2) yn gryf fel prif ffactor ar gyfer y clefyd.
Roedd gan bobl â newidiadau GlyT2 gyfradd uchel hefyd o broblemau anadlu mewn plentyndod cynnar ac anawsterau dysgu mewn plentyndod.
Ymchwil yn bwysig
Dywedodd yr Athro Rees o'r Coleg Meddygaeth, Prifysgol Abertawe: "Mae'r astudiaeth hon yn tanlinellu pwysigrwydd ymchwil aml-sefydliadol i anhwylderau plentyndod prin.
"Mae casglu data'n ofalus ac olrhain data clinigol ers dros 20 mlynedd bellach yn dod â chyfleoedd i'r amlwg i fynd i'r afael â'r anhwylder hwn ac i ddatblygu canllawiau gofal clinigol penodol."
Gwnaeth astudiaeth arall ar y cyd a arweinir gan Dr Beatriz López-Corcuera yn Universidad Autónoma de Madrid, adnabod un newid rheolaidd mewn genyn GlyT2 ymhlith unigolion o Sbaen a'r DU.
Mae'r ddwy astudiaeth wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar mewn erthyglau cefn wrth gefn yn y cylchgrawn Journal of Biological Chemistry.
Straeon perthnasol
- 25 Mehefin 2012
- 22 Mehefin 2012
- 8 Mehefin 2012