Gyrrwr beic modur wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 45 oed wedi marw yn dilyn damwain ar ei feic modur ym Mlaenau Gwent.
Digwyddodd y ddamwain am tua 5:45am fore Sadwrn ger Llanhiledd.
Mae Heddlu Gwent yn credu nad oedd unrhyw gerbyd arall yn rhan o'r digwyddiad.
Roedd y dyn, o Grymlyn yn Sir Caerffili, yn gyrru beic modur Honda glas.
Mae'r heddlu wedi apelio am dystion i'r digwyddiad, gan ofyn iddyn nhw ffonio Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau'r heddlu ar 01633 642404.