Oedi i deithwyr ar ôl i fws fynd ar dân ger Aberaeron
- Cyhoeddwyd

Mae teithwyr yng Ngheredigion yn wynebu oedi a chael eu dargyfeirio wedi i fws fynd ar dân ar gyrion Aberaeron.
Mae hyn yn cael effaith ar yrwyr loriau yn yr ardal.
Doedd 'na ddim teithwyr ar y bws 52 sedd pan ddigwyddodd y tân rhwng Aberaeron a Ffos y Ffin.
Wrth i'r gwaith adfer barhau mae disgwyl oedi yn yr ardal.
Mae 'na ddargyfeirio ar hyd lonydd gwledig i gerbydau llai a bydd rhaid i gerbydau mwy ddefnyddio ffyrdd B o Synod Inn.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Tra bod y ffordd ar agor ar hyn o bryd, gyda goleuadau'n rheoli llif y traffig, bydd angen cau'r ffordd am gyfnod byr prynhawn yma er mwyn caniatáu i'r gwasanaethau priodol symud y bws.
"Yn dilyn hyn cynhelir archwiliad o wyneb y ffordd er mwyn sicrhau nad oes niwed parhaol cyn i ni allu ailagor y ffordd yn gyfan gwbl.
"Ryn ni'n gobeithio y gall hyn ddigwydd cyn diwedd y dydd heddiw."