Diwrnod anodd i Forgannwg

  • Cyhoeddwyd

Cafodd Morgannwg ail ddiwrnod anodd yn eu gêm yn erbyn Sir Northampton yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd yn Northampton ddydd Sul.

Doedd 'na ddim chwarae ar ddiwrnod gyntaf yr ornest ond batiodd y tîm cartref yn gadarn trwy gydol yr ail ddiwrnod a sgorio 336 am bum wiced erbyn diwedd y dydd.

Roedd partneriaeth o 187 am y bedwaredd wiced gan David Sales (129 heb fod allan) a Robert Newtown (117).

Bowliwr mwyaf llwyddiannus Morgannwg oedd John Glover a gipiodd ddwy wiced am 51 rhediad oddi ar 15 o belawdau.

Mae Morgannwg ar waelod ail adran y bencampwriaeth gyda 40 pwynt o naw gêm, 15 pwynt y tu ôl i Sir Gaerlŷr sydd yn yr wythfed safle.

Yn y cyfamser, mae Prif Weithredwr Morgannwg, Alan Hamer, wedi galw ar Fwrdd Criced Lloegr a Chymru i ystyried rhoi help ariannol i'r siroedd oherwydd tywydd garw yn ystod yr haf.

Methodd Morgannwg â chwarae hanner o'u gemau 20 pelawd eleni oherwydd y tywydd gwael.

"Mae angen rhwyd ddiogelwch i warchod y siroedd mewn amgylchiadau anghyffredin," meddai Mr Hamer, sy'n amcangyfrif bod Morgannwg wedi colli mwy na £100,000 hyd yn hyn eleni oherwydd y tywydd garw.

Swydd Northampton v Morgannwg (Ail Ddiwrnod)

Swydd Northampton: (Batiad cyntaf):336-5

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol