Glaw yn rhwystro Morgannwg am y 15fed tro eleni
- Cyhoeddwyd
Doedd dim chwarae yn bosib rhwng Morgannwg a Sir Northampton yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd yn Northampton ddydd Llun oherwydd y glaw.
Hwn yw'r 15fed diwrnod cyfan o chwarae i Forgannwg golli oherwydd y glaw y tymor hwn.
Doedd 'na ddim chwarae ar ddiwrnod gyntaf yr ornest chwaith.
Ond batiodd y tîm cartref yn gadarn trwy gydol yr ail ddiwrnod gan sgorio 336 am bum wiced erbyn diwedd y dydd.
Roedd partneriaeth o 187 am y bedwaredd wiced gan David Sales (129 heb fod allan) a Robert Newtown (117).
Bowliwr mwyaf llwyddiannus Morgannwg oedd John Glover a gipiodd ddwy wiced am 51 rhediad oddi ar 15 o belawdau.
Mae Morgannwg ar waelod y bencampwriaeth gyda 40 pwynt o naw gêm, 15 pwynt y tu ôl i Sir Gaerlŷr sydd yn yr wythfed safle.
Yn y cyfamser, mae Prif Weithredwr Morgannwg, Alan Hamer, wedi galw ar Fwrdd Criced Lloegr a Chymru i ystyried rhoi help ariannol i'r siroedd oherwydd tywydd garw yn ystod yr haf.
Methodd Morgannwg â chwarae hanner o'u gemau 20 pelawd eleni oherwydd y tywydd gwael.
"Mae angen rhwyd ddiogelwch i warchod y siroedd mewn amgylchiadau anghyffredin," meddai Mr Hamer, sy'n amcangyfrif bod Morgannwg wedi colli mwy na £100,000 hyd yn hyn eleni oherwydd y tywydd garw.
Swydd Northampton v Morgannwg (Trydydd Diwrnod)
Swydd Northampton: (Batiad cyntaf):336-5
Morgannwg:
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2012