David Roberts ddim yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd
- Cyhoeddwyd

Ni fydd y Cymro David Roberts yng ngharfan Tîm Paralympaidd Prydain.
Mae wedi ennill 11 medal aur mewn gemau dros y blynyddoedd.
Roedd wedi ennill apêl fel y byddai Nofio Prydain yn ailystyried ei le yn y garfan.
Ond dywedodd y mudiad fod y penderfyniad gwreiddiol yn ddilys.
"Mae'n ofnadwy meddwl na fydda i fyth yn gallu cystadlu yn y Gemau Paralympaidd ym Mhrydain lle mae'r gemau'n cael eu cynnal."
"Fe wnes i herio'r penderfyniad i gael fy newis ond wedi misoedd o aros, doedd hynny ddim yn ddigon.
"Dwi ddim yn mynd i gystadlu gyda'r tîm dwi wedi hyfforddi gyda nhw am 14 blynedd."
Salwch
Collodd dreialon cyntaf Prydain wedi salwch ac ni chyrhaeddodd ei amser gorau yn y treialon yn Sheffield ym mis Ebrill.
Dros y tair blynedd diwethaf mae wedi cael anafiadau a salwch, gan gynnwys niwmonia yn gynharach eleni.
Roedd wedi dadlau y dylai Nofio Prydain ystyried yr amgylchiadau hyn.
Roedd panel apêl o'i blaid cyn i Nofio Prydain ystyried ei achos o ran ffitrwydd a materion meddygol.
Safon
Ond dywedodd y prif weithredwr, David Sparkes, nad oedden nhw'n credu bod Roberts yn cyrraedd y safon ar gyfer y gemau.
"Yn naturiol, rydym yn cydymdeimlo â'r ffaith na fydd Roberts yno ac yn dymuno'r gorau iddo yn y dyfodol.
"Dwi'n siŵr y bydd y nofiwr a ninnau am ddymuno'r gorau i'r tîm Paralympaidd yn y gemau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2012