'Mwy o law am ddeuddydd'
- Cyhoeddwyd

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus am fwy o lifogydd lleol gan y bydd glaw trwm dros y dyddiau nesaf.
Bydd glaw trwm a pharhaus ar draws y gogledd ddydd Mawrth a rhai cawodydd trwm yn bosib ddydd Mercher.
Gallai hyn arwain at "broblemau sylweddol" yn lleol oherwydd dŵr ar wyneb y ffyrdd wrth i'r glaw ddisgyn ar dir sydd eisoes yn wlyb iawn.
Galw am help
Bu'n rhaid i nifer o drigolion ym Mhowys alw am help y gwasanaethau brys wedi i ddŵr lifo i'w cartrefi nos Wener.
Mae'r asiantaeth yn monitro'r tywydd a lefelau afonydd ac fe fydd yn cyhoeddi rhybuddion pellach os oes angen.
Dywedodd swyddogion eu bod wedi gwirio amddiffynfeydd llifogydd ac nad oedd rhwystrau mewn draeniau.
Daeth cyngor hefyd i bobl beidio â cherdded na gyrru drwy ddŵr llifogydd, ac i gymryd gofal arbennig wrth yrru.
Dylai pobl wrando ar ddarllediadau am y tywydd a'r ffyrdd ar y cyfryngau er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf, neu gall pobl gael gwybodaeth ar wefan yr Asiantaeth neu drwy ffonio'r llinell ffôn arbennig - 0845 988 1188.
Straeon perthnasol
- 14 Gorffennaf 2012
- 13 Gorffennaf 2012
- 13 Gorffennaf 2012