Chwilio am ddyn ar goll
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi dod o hyd i gar dyn ar goll yn Eryri.
Dywedodd Heddlu Sir Gaer eu bod yn apelio am wybodaeth am Anthony Lewis, 63 oed o Ellesmere Port.
Daethpwyd o hyd i'r BMW lliw arian ddydd Iau ac mae'r heddlu'n credu bod y dyn o bosib yng Ngwynedd neu Ynys Môn.
Dywedodd yr Arolygydd Sharon Case: "Rydym yn poeni'n fwyfwy am ei les.
"Mae'r ffaith nad yw wedi cysylltu â'i deulu'n annodweddiadol ..."
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.