Angladd milwr o Gymru a laddwyd yn Afghanistan

  • Cyhoeddwyd
Y Gwarchodfilwr Craig Andrew RoderickFfynhonnell y llun, Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y Gwarchodfilwr Craig Roderick ei ladd yn Afghanistan ar Orffennaf 1

Bydd angladd milwr o Gymru, a laddwyd yn Afghanistan ddechrau'r mis, yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Roedd y Gwarchodfilwr Craig Andrew Roderick, 22 oed o Lanharan, ymhlith tri milwr a gafodd eu saethu gan ddyn yn gwisgo lifrai heddlu Afghanistan yn Nhalaith Helmand ar Orffennaf 1.

Roedden nhw'n cyfarfod ag arweinwyr lleol yn Kamparack Pul ar y pryd.

Roedd y Gwarchodfilwr Roderick a Saunikalou Ratumaiyale Tuisovurua, 28 oed, yn aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig a'r Swyddog Gwarantedig Leonard Perran Thomas, 44 oed o Gorfflu Brenhinol y Signalau, yn gynaelod o'r Gwarchodlu Cymreig.

Bydd yr angladd, ag anrhydeddau milwrol llawn, yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan Llandaf am 2:00pm dan arweiniad y Caplan Milwrol, y Tad Andrew Latifa, a'r Parchedig Ganon Graham Holcombe.

Wedi'r gwasanaeth, bydd ei gorff yn cael ei gludo i Amlosgfa Thornhill, Caerdydd.

'Bwlch mawr'

Mae'r Gwarchodfilwr Roderick, cyn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Pencoed yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, yn gadael tad a mam, Mike a Sadie, dwy chwaer, llysfrawd, mam-gu a chariad.

"Ni all geiriau ddisgrifio sut mae colli Craig wedi effeithio arnon ni," meddai ei deulu.

"Ni fydd y bwlch mawr sydd wedi ei adael byth yn cael ei lenwi.

"Bydd pawb oedd yn ei adnabod yn colli ei wên fawr a'i ddigrifwch.

"Ef oedd y mab, brawd neu ffrind gorau y gallwch ei gael.

"Roedd yn anrhydedd ei adnabod. Bydd yna golled ar ei ôl a wnawn ni byth ei anghofio."

Mae'r teulu wedi gofyn i bobl beidio ag anfon blodau, ond i roi cyfraniad at elusen Help for Heroes trwy law'r ymgymerwyr os ydyn nhw'n dymuno.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol