Les Davies: Pêl-droediwr gorau Ewrop?
- Cyhoeddwyd

Mae aelod o dîm pêl-droed Dinas Bangor ymysg y 32 enw ar restr hir y chwaraewyr sydd wedi eu henwebu ar gyfer gwobr pêl-droediwr gorau Ewrop gan UEFA.
Mae'r ymosodwr Les Davies, 27 oed yn ymuno â chwaraewyr fel Lionel Messi a Cristiano Ronaldo ar y rhestr.
Cafodd y rhestr hir ei dewis gan un newyddiadurwr o'r 53 gwlad sy'n aelod o UEFA.
Roedd gan y newyddiadurwyr yr hawl i bleidleisio am bum chwaraewr yr un.
Monaco
Cafodd Davies ei enwebu gan newyddiadurwr chwaraeon y Daily Post, Dave Jones.
Y gred yw bod enwebiad Mr Jones wedi bod yn ddigon i Davies ennill ei le ymysg mawrion y gêm.
"Fyddwn i ddim wedi disgwyl i hyn ddigwydd mewn miliwn o flynyddoedd," meddai Davies.
Ymunodd Davies â Dinas Bangor o Lantraeth yn 2003 ac fe chwaraeodd i Borthmadog am gyfnod cyn dychwelyd i Fangor ym mis Mehefin 2007.
Mae'r asgellwr wedi cynrychioli tîm dan 21 oed Cymru a thîm rhannol broffesiynol dan 23 oed ei wlad.
Cynhelir seremoni wobrwyo chwaraewr y flwyddyn UEFA ym Monaco ar Awst 30 eleni.
Rhestr hir UEFA
Aguero (Manchester City), Xabi Alonso (Real Madrid), Balotelli (Manchester City), Blaszczykowski (Borussia Dortmund), Buffon (Juventus), Casillas (Real Madrid), Cech (Chelsea), Coentrao (Real Madrid), Davies (Dinas Bangor), Drogba (Shanghai Shenhua), Fabregas (Barcelona), Falcao (Atletico Madrid), Hart (Manchester City), Ibrahimovic (AC Milan), Iniesta (Barcelona), Kagawa (Manchester Utd), Kompany (Manchester City), Lampard (Chelsea), Messi (Barcelona), Modric (Tottenham), Ozil (Real Madrid), Pepe (Real Madrid), Pirlo (Juventus), Ramos (Real Madrid), Raul (Clwb Chwaraeon Al-Sadd), Ronaldo (Real Madrid), Rooney (Manchester Utd), Silva (Manchester City), Torres (Chelsea), Y Toure (Manchester City), van Persie (Arsenal), Xavi (Barcelona).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2012