Cardota yn 'broblem Olympaidd' yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae rhai perchnogion siopau yng Nghaerdydd wedi honni bod mwy o gardota yn y ddinas yn creu argraff anffafriol ar ymwelwyr i'r ddinas yn ystod y Gemau Olympaidd.
Honnodd Partneriaeth Manwerthu Caerdydd fod mwy o bobl yn cardota neu'b cam-drin alcohol ar y strydoedd.
Dywedon nhw fod cysylltiad rhwng problemau â lloches dros dro i'r digartref ger canol Caerdydd.
Ond yn ôl y cyngor, "does dim tystiolaeth ffeithiol o gwbl" i gefnogi'r honiad.
'Y peth ola'
Dywedodd llefarydd y bartneriaeth, David Hughes-Lewis, fod cardota wedi cynyddu ers i loches Dŷ Tresillian, y mae'r cyngor yn ei rheoli, a lloches elusen Huggard, wedi i adeilad dros dro symud i'r Custom House ar waelod Heol yr Eglwys Fair.
"Mae hon yn broblem fawr i fasnachwyr ar Heol yr Eglwys Fair," meddai Mr Hughes-Lewis sy'n berchen ar siop emau.
"Y peth ola' rwy' am ei weld yw mwy o gardotwyr pan fydd digwyddiadau'r Gemau Olympaidd yng Nghaerdydd."
Cafodd ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd, meddai.
"Mae cardotwyr a phobl sy'n cam-drin alcohol y tu allan i'n siopau yn gofyn pobl am arian ac yn dod i mewn i'n siopau.
"Rydym wedi bod yn ymgyrchu am ddwy flynedd."
'Dim tystiolaeth'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd nad oedd "unrhyw dystiolaeth ffeithiol o gwbl" am y cysylltiad rhwng mwy o gardota a'r llochesi.
"Rydym wedi gofyn am y dystiolaeth ynglŷn â'r honiad hwn."
Mae disgwyl i'r rhai sy'n mynd i'r ddwy loches symud i lety newydd ar Heol Dumballs yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru nad oedd unrhyw ystadegau ar gael am fwy o achosion, gan gynnwys pobl ddigartref, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd30 Awst 2011
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2009