Michu i arwyddo i'r Elyrch a Gunter i symud i Reading

  • Cyhoeddwyd
MichuFfynhonnell y llun, MediJoshi
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Manchester United ymhlith y clybiau oedd wedi dangos diddordeb yn 'Michu'

Mae Rayo Vallecano wedi derbyn cynnig Abertawe am y chwaraewr Sbaeneg Miguel Pérez Cuesta (Michu) yn ôl adroddiadau yn Sbaen.

Y gred yw bod Abertawe wedi cynnig €2 miliwn am y chwaraewr canol cae 26 oed sgoriodd 15 gôl yn La Liga y llynedd.

Yn ôl Marca.com cafodd y Sbaenwr ganiatâd i drafod telerau personol â'r Elyrch ddydd Llun.

Mae nifer o glybiau eraill sy'n chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr wedi dangos diddordeb yn Michu gan gynnwys Manchester United, Lerpwl, WBA a Stoke.

£2.3 miliwn

Mae rheolwr newydd Abertawe, Michael Laudrup, wedi dweud ei fod yn meddwl fod marchnad drosglwyddo chwaraewyr Sbaen yn cynnig gwerth am arian ers iddo gymryd yr awenau wedi i Brendan Rodgers adael i reoli Lerpwl.

Y gre yw y bydd Michu yn cymryd lle Gylfi Sigurdsson benderfynodd ymuno â Tottenham yn gynharach ym mis Gorffennaf.

Yn y cyfamser mae disgwyl i amddiffynwr Nottingham Forest a Chymru Chris Gunter symud i Reading yn dilyn archwiliad meddygol ddydd Mawrth.

Credir y bydd Gunter, 22 oed, sydd wedi chwarae 37 tro dros Gymru yn symud o Nottingham Forest i Reading, sydd newydd ddychwelyd i'r Uwchgynghrair am £2.3 miliwn.