Cyngor i geisio prynu hen ysbyty yn orfodol

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno i fwrw 'mlaen â chynlluniau i sicrhau pryniant gorfodol hen ysbyty seiciatryddol yn y sir.

Ddydd Mawrth buon nhw'n trafod adroddiad ar Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych, a gaeodd ei ddrysau yn 1995.

Yn ôl yr adroddiad, mae cyflwr yr adeilad yn fwy "bregus" nag a dybiwyd yn wreiddiol a gallai gostio £930,000 i'w atgyweirio.

Mae'r ysbyty, a adeiladwyd ym 1844, wedi cael ei fandaleiddio, ei ysbeilio a'i ddifrodi gan dân dros y blynyddoedd diwetha'.

Mae rhai rhannau o'r adeilad wedi eu rhestru.

Roedd datblygwyr yn bwriadu adeiladu 280 o dai a chyfleusterau cymunedol ar y safle.

Ond ni ddechreuodd y gwaith a daeth y caniatâd cynllunio i ben yn 2009.

Difrodwyd rhan o'r ysbyty ym mis Tachwedd 2008 oherwydd tân.

Pryniant gorfodol

Wedi i swyddogion fynegi pryderon am gyflwr yr adeilad, cafodd Hysbysiad Gwaith Brys ei gyflwyno ym mis Mehefin y llynedd, gyda'r gost bryd hynny yn cael ei amcangyfrif yn £800,000.

"Mae gorchmynion am daliadau'n deillio o wariant y cyngor wedi'u cyflwyno i'r perchennog ond does dim taliadau wedi'u gwneud," meddai'r adroddiad diweddara' i'r cyngor.

Mae hefyd yn dweud fod adran gynllunio'r cyngor yn dilyn camau allai, yn y diwedd, arwain at bryniant gorfodol yr ysbyty.

Ond gallai hynny gymryd hyd at 18 mis, yn ôl yr adroddiad.

Ond yn ôl y cyfreithiwr Ayub Bhailok, sy'n gweithredu ar ran Freemont, byddan nhw'n herio unrhyw ymgais gan y cyngor i brynu'r ysbyty yn orfodol.

Dywedodd Mr Bhailok fod y cynlluniau gwreiddiol i ddatblygu'r safle wedi methu "am fod y byd wedi newid wrth i'r dirwasgiad frathu", a bod hynny wedi gwneud y prosiect yn "anghynaladwy".

Ychwanegodd fod gan ei gleient nifer o bryderon ac y byddai'n eu codi gyda'r cyngor, gan gynnwys costau'r gwaith brys.

Fe alwodd hefyd am ymchwiliad cyhoeddus i weithredoedd yr awdurdod a dywedodd eu bod yn ystyried cymryd camau cyfreithiol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol