Hwb ariannu o £1.3 miliwn i Ganolfan Hamdden Rhuthun

  • Cyhoeddwyd
Argraffiad arlunydd o'r ganolfan ar ei newydd gweddFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ddinbych
Disgrifiad o’r llun,
Bydd yr ailddatblygiad yn cynnwys maes chwarae pob tywydd o faint llawn

Mae cynllun gwerth £1.3 miliwn i ailwampio cyfleusterau hamdden yn Rhuthun wedi cael ei gymeradwyo.

Penderfynodd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych roi'r golau gwyrdd i'r cynllun i wella cyfleusterau yng Nghanolfan Hamdden Rhuthun.

Mae'r ganolfan, sydd ar dir Ysgol Brynhyfryd, â phwll nofio 25 medr ar hyn o bryd; cae pob tywydd bychan; neuadd chwaraeon; campfa; ystafell ffitrwydd a nifer o feysydd chwarae gwair.

Bydd yr ailddatblygiad yn cynnwys maes chwarae pob tywydd o faint llawn, derbynfa newydd gydag ardal i wylio'r pwll nofio, safleoedd newid, ystafell ffitrwydd Technogym a pharcio pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid y ganolfan hamdden.

'Cyfleusterau llawer gwell'

Dywedodd y Cynghorydd Huw Jones, Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Hamdden, eu bod fel cyngor yn cydnabod bod angen moderneiddio cyfleusterau.

"Dyna pam rydyn ni wedi rhoi'r rhaglen uchelgeisiol yma at ei gilydd ar gyfer Canolfan Hamdden Rhuthun.

"Rhan allweddol o'n strategaeth hamdden ydi cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden, wrth wella iechyd a lles ein preswylwyr.

"Bydd y datblygiad yn rhoi mynediad i bobl at gyfleusterau llawer gwell.

"Gobeithio y bydd hefyd yn annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn ymarfer rheolaidd."

Dywedodd Jamie Groves, Pennaeth Hamdden, Llyfrgelloedd a Datblygu Cymunedau'r cyngor bod hi'n gyfle da, gyda sylw cymaint ar y Gemau Olympaidd, i ganolbwyntio ar chwaraeon, iechyd a ffitrwydd.

"Mae'n amser delfrydol i'r cyngor ddangos ymrwymiad i ddarparu cyfleusterau o'r ansawdd gorau posib drwy gyhoeddi'r buddsoddiad.

"Mae wedi bod yn nod ac ymrwymiad personol gen i ar gyfer y gwasanaeth i barhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau.

"Nid dim ond disgyblion ysgol fydd yn elwa o'r cyfleusterau, ond grwpiau chwaraeon a phreswylwyr lleol yn ardal Rhuthun hefyd.

"Rydyn ni am greu cyfleusterau y gall y cyngor, yn ogystal â phobl leol, fod yn falch ohonyn nhw."

Caiff y prosiect ei reoli gan Alliance Leisure ar ran y cyngor.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol