Y Seintiau Newydd 'yn hyderus' cyn herio tîm o Sweden
- Cyhoeddwyd

Mae rheolwr y Seintiau Newydd, Craig Harrison, yn gobeithio na fydd yr achlysur yn ormod i'w dîm wrth iddyn nhw herio Helsingborgs yng Nghynghrair y Pencampwyr nos Fawrth.
Bydd pencampwyr Cymru yn herio pencampwyr Sweden yn ail rownd ragbrofol y gystadleuaeth yn Neuadd y Parc.
Mae gan yr ymwelwyr hanes cryf yn y gystadleuaeth, gan gyrraedd rownd y grwpiau yn nhymor 2000/01, gan guro cewri Internazionale o Milan ar y ffordd.
"Mae ganddyn nhw enw am fod yn dîm cryf. Fe fydd hi'n anodd, ond mae gennym hyder," meddai Harrison.
"Yr hen ddihareb yn y byd pêl-droed yw bod rhaid i chi chwarae'r gêm nid yr achlysur."
'Cynllun a system'
Y tro diwethaf i Helsingborgs ymddangos yn rownd y grwpiau yng Nghynghrair y Pencampwyr, fe gawson nhw gemau cyfartal yn erbyn Bayern Munich a Paris St Germain, ac ennill yn erbyn Rosenborg.
Yn fwy diweddar, fe lwyddodd y tîm i gyrraedd rownd 32 olaf Cwpan UEFA yn 2007/08, ac mae nifer o chwaraewyr rhyngwladol yn eu carfan.
Ar hyn o bryd maen nhw'n drydydd yng nghynghrair Sweden, ond mae Harrison yn hapus gyda pharatoadau ei garfan.
Ychwanegodd: "Rydym wedi gweithio'n galed, ac mae'n wych cael y cymal cyntaf ar ein tomen ein hunain.
"Mae'r gwaith cartref wedi ei wneud, ac mae gennym system, cynllun a ffordd yr ydym am chwarae'r gêm."
Mae dau enw newydd yng ngharfan y Seintiau, gyda Chris Jones yn barod i chwarae ei gêm gyntaf i'r pencampwyr wedi iddo ymuno o Gastell-nedd, a Chris King yn dychwelyd i'r clwb bedair blynedd wedi iddo adael am Accrington Stanley.
Y Seintiau Newydd yw cynrychiolwyr olaf Cymru yn Ewrop eleni wedi i Lanelli, Bangor a Derwyddon Cefn golli yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa yr wythnos ddiwethaf.
Straeon perthnasol
- 12 Gorffennaf 2012
- 12 Gorffennaf 2012
- 12 Gorffennaf 2012