Morgannwg yn ennill eu gêm gyntaf

  • Cyhoeddwyd

Enillodd Morgannwg eu gêm gyntaf yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd eleni wedi iddynt guro Sir Northampton oddi cartref ddydd Mawrth.

Sgoriodd Marcus North, Jim Allenby, a Mark Wallace mwy na hanner cant o rediadau'r un wrth i'r ymwelwyr ennill o dair wiced ar ôl cwrso sgôr o 351.

Caeodd Sir Northampton eu batiad cyntaf ar ôl sgorio 350 am saith wiced.

Penderfynodd y ddau dîm fforffedu batiad yr un mewn ymgais i gael canlyniad i'r gêm oedd wedi dioddef yn arw oherwydd glaw trwm ar y diwrnod cyntaf a'r trydydd diwrnod.

Hanner cant

Cafodd Morgannwg ddechrau trychinebus i'w hail fatiad pan gollodd Will Bragg ei wiced oddi ar ail bêl y batiad.

Ond batiodd North (73), a Wallace (54) yn ddisglair a chawsant eu cefnogi gan fatio cadarn gan Stewart Walters (29), Gareth Rees (34) a Ben Wright (34).

Ond arwr Morgannwg oedd Jim Allenby a sgoriodd ei hanner cant oddi ar ddim ond 68 pêl.

Allenby (67 heb fod allan) sgoriodd y rhediadau a enillodd yr ornest oddi ar bêl gyntaf pelawd olaf y gêm.

Swydd Northampton v Morgannwg (Pedwerydd Diwrnod)

Swydd Northampton: (Batiad cyntaf):350-5

(Ail fatiad): Fforffedu

Morgannwg: (Batiad cyntaf): Fforffedu

(Ail fatiad): 351-7

Morgannwg: 17 pwynt.

Sir Northampton: 4 pwynt.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol