Cwest: Bachgen wedi ei drywanu
- Cyhoeddwyd

Clywodd cwest yn Llangefni fod bachgen dwy flwydd oed wedi marw wedi iddo gael ei drywanu bedair gwaith.
Roedd gan William Jones, fu farw gyda'i fam yn eu cartref yn Nhremadog ym mis Mawrth, ddau anaf trywanu bob ochr i'w wddf ac roedd ymgais wedi bod i dorri ei wddf.
Patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Brian Rodgers, oedd yn rhoi tystiolaeth wrth i fanylion am yr anafiadau gael eu cyhoeddi am y tro cyntaf.
Sioc
Dywedodd Dr Rodgers fod saith set o anafiadau mawr.
Dywedodd y crwner, Dewi Pritchard-Jones, fod y bachgen wedi marw o sioc a gwaedu oherwydd yr anafiadau trywanu i'w wddf, ei frest a'i stumog.
Ychwanegodd y patholegydd fod ei fam Suzanne Jones, 34 oed, wedi marw drwy gael ei thagu a'i thrywanu yn ei brest.
Cafodd y cwest wedyn ei ohirio am y tro.
Mae David Wyn Jones, 42 oed o Bwllgoleuglas ger Tremadog, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio'i fab a'i wraig yng nghartref y teulu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2012