Trafod darpariaeth hamdden i ieuenctid Bangor

  • Cyhoeddwyd
Stryd Fawr Bangor
Disgrifiad o’r llun,
Doedd 'na ddim trafferthion ar noson gyntaf y gorchymyn yn ôl yr heddlu

Mae athrawes yn arwain prosiect newydd er mwyn agor atyniad i bobl ifanc Bangor.

Yn ddiweddar mae pobl ifanc Bangor wedi bod yn y newyddion o ganlyniad i gyflwyno gwaharddiad ar bobl ifanc yn ymgynnull yng nghanol y ddinas.

Bwriad Elen Clampitt, athrawes gyflenwol yn Ysgol Friars y ddinas, yw datblygu prosiect cymunedol i'r ifanc, yn ei hamser sbâr.

Y bwriad yw darparu cyfleodd unigryw a gwych i ieuenctid Bangor.

O dan y gwaharddiad gall yr heddlu, os ydyn nhw'n dymuno, symud unrhyw un o dan 16 oed sydd ddim yng nghwmni oedolyn ar ôl 9pm yn y ddinas ymlaen.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn mynnu na fydd y gwaharddiad yn ymwneud â phob person ifanc, dim ond y rhai sy'n creu trafferth.

Gofod diogel

"Rydym wedi cydnabod fod yna ddiffyg darpariaeth gymdeithasol ar gyfer pobl ifanc ym Mangor," meddai Ms Clampitt.

"Mae'r niferoedd hynny o bobl ifanc sy'n treulio'u hamser hamdden yn cicio'u sodlau yn uchel iawn ac maen nhw'n credu y dylai fod yna llawer mwy o gyfleoedd i ddatblygu'i diddordebau a'u talentau.

"Rydym yn awyddus i sefydlu lleoliad yng nghanol y ddinas sy'n darparu gofod diogel ar gyfer pobl ifanc o bob cefndir, i gymdeithasu gyda ffrindiau a chyfoedion, heb y gofid hwnnw o gael eu gorfodi i symud ymlaen.

"Bydd y lleoliad yn darparu mynediad i amrywiaeth o weithdai a gweithgareddau er mwyn rhoi cymorth iddyn nhw archwilio eu diddordebau a datblygu sgiliau newydd."

Dymuniad Ms Clampitt, sydd wedi ymweld â nifer o wledydd, yw creu diwylliant y mae wedi dod ar ei draws dramor, i roi dewis amgen i ddiwylliant yfed yn ein cymdeithas i'r bobl ifanc.

Bydd cyfarfod cyhoeddus am 5pm ddydd Mercher i drafod y cynlluniau yng Nghlwb Hirael, Stryd Ambrose, Bangor.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol