Bil cyfreithiol mawr i glwb rygbi
- Cyhoeddwyd

Mae clwb rygbi Pont-y-pŵl yn wynebu bil cyfreithiol o £400,000 wedi iddyn nhw golli achos yn yr Uchel Lys o blaid chwarae yn Uwchgynghrair Rygbi Cymru y tymor nesaf.
Ers misoedd bu'r clwb yn brwydro yn erbyn penderfyniad Undeb Rygbi Cymru i beidio â'u cynnwys yn yr uwchgynghrair newydd 12 tîm.
Dywedodd y Barnwr Sir Raymond Jack: "O ystyried canlyniad yr achos, fe allaf ddweud y dylai Pont-y-pŵl fod wedi derbyn cynnig Undeb Rygbi Cymru i ildio ar Fai 28."
Mae cyfreithwyr yr undeb yn amcangyfrif bod costau'r achos bron yn £400,000, gyda £250,000 o'r cyfanswm yn gostau'r undeb gafodd eu cynrychioli gan Gwnsler y Frenhines.
Dal i gredu
Cyn yr achos fis diwethaf roedd cefnogwyr ariannol y clwb wedi gorfod rhoi sicrwydd y bydden nhw'n medru talu costau "rhesymol" yr undeb pe bai'r barnwr yn penderfynu yn eu herbyn.
Ond yn gynharach ddydd Mawrth datgelwyd bod cyfreithwyr y clwb yn dal i gredu bod modd i'r clwb chwarae yn yr Uwchgynghrair yn ystod y tymor nesa'.
Dywedodd y cyfreithiwr, Ian Rogers, fod y ffaith nad oedd Cwins Caerfyrddin wedi llwyddo i sicrhau trwydded 'A', sy'n ymwneud ag adnoddau stadiwm, yn golygu bod gobaith o hyd i Bont-y-pŵl.
Ond gwadu hynny wnaeth bargyfreithiwr Undeb Rygbi Cymru, Adam Lewis QC, ddywedodd bod y gynghrair newydd wedi ei hymestyn o 10 tîm i 12 yn benodol er mwyn cynnwys Caerfyrddin a Phen-y-bont ar Ogwr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2012