Y Gemau Olympaidd yn cael blaenoriaeth un cwmni ffôn symudol
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gemau Olympaidd yn cael effaith ar ddarpariaeth signal ffôn i gwsmeriaid Vodafone ym Mro Morgannwg.
Dywedodd trefnwyr yr Eisteddfod eu bod yn ymwybodol bod y signal i gwsmeriaid Vodafone yn wan.
"Fel sy'n arferol fe wnaeth yr Eisteddfod gysylltu gyda'r cwmni i ofyn am well darpariaeth," meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.
"Mae'r haf hwn yn brysur i'r cwmni, sy'n un o brif bartneriaid y Gemau Olympaidd ac maen nhw wedi rhoi blaenoriaeth i ddarparu gwasanaeth yn Llundain ar hyn o bryd.
"Oherwydd hyn dydi'r ddarpariaeth ddim wedi gwella i gwsmeriaid oherwydd diffyg adnoddau'r cwmni ffôn.
Mae cwmni Orange wedi darparu mast arbennig ar Y Maes.
Dywedodd trefnwyr yr Eisteddfod fod modd derbyn data, e-byst a chysylltiad gwe drwy wasanaeth diwifr sydd wedi ei ddatblygu gan gwmni Ethnet neu Kinnect Broadband.
Mae'r ddarpariaeth yma ar gael ar y Maes, y Maes Carafanau a'r Maes Ieuenctid.