Remploy: Cynllun i helpu cyn-weithwyr
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun gwerth £2.4 miliwn ar gyfer cyflogwyr yng Nghymru fydd yn cyflogi cyn-weithwyr Remploy am o leiaf pedair blynedd wedi cael ei gyhoeddi.
Bydd y Grant Cynhaliaeth Cyflogwyr yn cyfrannu at gyflogau a "phob costau rhesymol eraill" sy'n gysylltiedig â chyflogi gweithiwr anabl.
Cafodd y cynllun ei gyhoeddi gan y Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi i Lywodraeth y DU gadarnhau y bydd pum safle Remploy yng Nghymru yn cau.
Disgwylir i 183 o swyddi gael eu colli.
'Anghynaladwy'
Roedd saith o'r naw ffatri dan fygythiad ac yr wythnos diwethaf cadarnhaodd yr Adran Gwaith a Phensiynau San Steffan y byddai safleoedd yn Aberdâr, Abertyleri, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam yn cau.
Dywedodd y llywodraeth eu bod wedi derbyn cynlluniau busnes hyfyw ar gyfer dau safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chroespenmaen.
Felly bydd modd parhau â'r gwaith yno am y tro.
Er gwaetha' ymdrechion i foderneiddio'r busnes, mae Llywodraeth Prydain yn dweud ei fod yn colli £72 miliwn pob blwyddyn.
Dywedon nhw y dylai ffatrïoedd Remploy sy'n "anghynaladwy" gau ac y dylai'r arian gael ei ail-fuddsoddi mewn cynlluniau eraill.
Yn ôl y gweinidog dros bobl anabl, Maria Miller, fe allai'r £320m ar gyfer gwasanaethau cyflogaeth anabl gael ei wario'n fwy effeithiol.
'Urddas'
Dywedodd Mr Andrews fod y penderfyniad i gau'r ffatrïoedd yn "ergyd drom iawn" i'r gweithwyr a'u cymunedau.
"Mae Llywodraeth Cymru yn credu ni ddylai gwaith nac urddas fod yn fraint felly rydym wedi gweithredu'n gyflym i gefnogi'r gweithwyr sy'n wynebu diweithdra," meddai.
"Rydym wedi cyd-weithio ag awdurdodau lleol, mentrau cymdeithasol, busnesau yn y sector breifat a busnesau a gynorthwyir i ganfod cyfleoedd gwaith posib."
Croesawodd ysgrifennydd yr undeb Unite Cymru, Andy Richards, y cyhoeddiad.
"Byddwn yn dal i gyd-weithio â Llywodraeth Cymru ac yn brwydro ar ran gweithwyr Remploy," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd9 Mai 2012
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2012