Gobaith am ddyfodol Coleg Llanymddyfri
- Published
Mae athrawon Coleg Llanymddyfri wedi bod yn clywed am gynlluniau'r cwmni newydd a ddaw'n gyfrifol am yr ysgol ymhen pythefnos.
Diwedd mis Mehefin, fe ddaeth hi'n amlwg fod gan y Coleg ddyledion o £2 filiwn.
Dydy'r staff ddim wedi cael eu talu ers hynny.
Roedd hi'n ymddangos bod 'na gefnogaeth gref i'r drefn newydd yn y cyfarfod nos Fercher wnaeth bara am tua 45 munud.
Bydd trafodaethau am gyflogau athrawon yn parhau.
Doedd 'na ddim sicrwydd y byddai staff yn cael eu cyflog am fis Mehefin a mis Gorffennaf.
Trafodaethau
Bydd y cwmni newydd yn ei le erbyn Awst 1 a bydd yr ysgol ar agor ym mis Medi.
Fe fydd y telerau ac amodau presennol yn cael eu gwarchod a disgwyl i'r rhan fwyaf o staff gael eu hail-gyflogi gan y cwmni newydd.
"Roedd yn gyfarfod da ar y cyfan a'r staff wedi eu plesio i raddau helaeth," meddai Geraint Davies o undeb NASUWT Cymru.
"Roedd 'na gymeradwyaeth ar y diwedd i'r cyflwyniad gan gynrychiolydd y cwmni newydd.
"Ar hyn o bryd, fel mae pethau yn sefyll fe fydd y cwmni newydd gobeithio yn bodoli yn gyfreithiol yr wythnos nesa ac mewn lle i dalu cyflogau.
"Ond mae'r trafodaethau am gyflogau Gorffennaf a Mehefin yn parhau rhwng yr undebau a'r hen gwmni."
Yn gynharach ym mis Gorffennaf penderfynodd rhieni disgyblion y coleg gymeradwyo cynlluniau i geisio mynd i'r afael â'r dyledion drwy greu'r cwmni newydd i fod yn gyfrifol am yr ysgol.
Gobaith y coleg yn Sir Gaerfyrddin yw ad-drefnu'r ysgol gyda chefnogaeth newydd er mwyn dileu'r ddyled.
100 o staff
Mae 'na tua 100 o staff yn y coleg ar gyfer 300 o ddisgyblion.
Mae Coleg Llanymddyfri yn gwmni preifat ac yn elusen gofrestredig sy'n cael ei redeg o dan arweiniad ymddiriedolwyr.
Cafodd ei sefydlu yn 1847.
Ymhlith cyn-ddisgyblion nodedig y mae Archesgobion Cymru a chwaraewyr rygbi fel Carwyn James a George North.
Pan gafodd y cyfrifon diweddaraf eu danfon y llynedd, cafodd ymddiriedolwyr yr ysgol rybudd fod trefniant banc yr ysgol yn debygol o fynd yn fwy na'r £1.55m dros y 12 mis nesaf, a'u bod yn gofyn am adnoddau pellach o hyd at £1.7m.
Er 2007 mae'r coleg wedi wynebu gostyngiad o 9% yn nifer y disgyblion.
Straeon perthnasol
- Published
- 1 Gorffennaf 2012
- Published
- 29 Mehefin 2012