Cynlluniau newydd i ad-drefnu addysg Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd

Gallai ysgol uwchradd ac ysgol gynradd newydd gael eu hadeiladu yn Sir y Fflint o dan gynlluniau diwygiedig i ad-drefnu addysg yn y sir.
Byddai'r ysgolion yn cael eu codi yn Nhreffynnon a gallai rhan o addysg ôl-16 gael ei symud yn y Wyddgrug a Glannau Dyfrdwy.
Cafodd y cynlluniau dadleuol i ad-drefnu rhai o ysgolion uwchradd Sir y Fflint, er mwyn mynd i'r afael â lleoedd gwag, eu rhoi i'r neilltu yn gynharach yr wythnos hon.
Doedd cynlluniau'n ymwneud ag ysgolion Glannau Dyfrdwy, Bwcle a Mynydd Isa ddim wedi plesio rhieni pan gafodd eu cyflwyno i ddechrau, gan achosi swyddogion i ailystyried.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu ymgynghori ynglŷn â'r cynlluniau yn ystod yr hydref eleni.
Ddydd Mawrth cytunodd cabinet y cyngor ar y cynllun fel a ganlyn:
- Yn Nhreffynnon byddai ysgol uwchradd yn cael ei hadeiladu yn ogystal ag ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Perth y Terfyn ac Ysgol y Fron.
- Yng Nglannau Dyfrdwy byddai Ysgol Uwchradd John Summers yn darparu addysg ar gyfer plant rhwng 3a 16 oed tra byddai Ysgol Uwchradd Cei Conna yn cynnig addysg ôl-16.
- Yn ardal Yr Wyddgrug, Bwcle a Mynydd Isa byddai lleihau maint Ysgol Uwchradd Elfed ym Mwcle gan gynnig 600 lle gyda rhan o'r ysgol yn cael ei defnyddio gan y gymuned. Byddai addysg ôl-16 yn cael ei symud i Ysgol Alun, Yr Wyddgrug.
"Byddai hyn yn creu lle [yn Elfed] a allai gael ei ddefnyddio ar gyfer pethau fel swyddfeydd, sydd ddim yn ymwneud â'r ysgol," meddai adroddiad i aelodau'r cabinet.
Mae rhan o Ysgol Elfed eisoes yn gartre' i bwll nofio a chanolfan hamdden y dre'.
Bydd 'na ragor o ymgynghori cyn i'r penderfyniad terfynol gael ei wneud erbyn canol 2013.
Cafodd y cynlluniau eu trafod gynta' yr haf diwetha', gyda Chyngor Sir y Fflint yn dweud fod 'na dros 25% o leoedd gwag mewn tair ysgol uwchradd - Treffynnon, Elfed ym Mwcle a John Summers yn Queensferry.
O dan y cynllun gwreiddiol, roedd 'na opsiwn i uno Ysgol Uwchradd Argoed, Mynydd Isa, gydag Ysgol Uwchradd Elfed - ynghyd ag uno Ysgol Uwchradd John Summers, Glannau Dyfrdwy, gydag Ysgol Uwchradd Cei Conna.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd5 Medi 2011
- Cyhoeddwyd17 Awst 2011
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2011