BBC Cymru Fyw

Ffatri: 'Angen trafodaethau brys'

Published
image copyrightBBC news grab
image captionMae gweithwyr wedi cael gwybod y gallai'r gwaith gael ei symud i'r Iseldiroedd a'r Almaen

Mae Cyngor Abertawe yn ceisio cael trafodaethau brys ynghylch dyfodol ffatri pecynnu yn Fforest-fach a allai gau gan arwain at golli mwy na 50 swydd.

Mae Signode ITW yn cynhyrchu deunydd polyester ar gyfer cludo blociau concrid a briciau ymysg eraill.

Mae gweithwyr yno wedi cael gwybod y gallai'r gwaith gael ei symud i'r Iseldiroedd a'r Almaen.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni y bydd trafodaethau yn cael eu cynnal gyda'r undebau.

Ychwanegodd mai costau cynyddol mewn marchnad gystadleuol sydd y tu ôl i'r symudiad.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Abertawe, David Phillips: "Mae'r rhain yn swyddi gweithgynhyrchu â sgiliau uchel.

"Ni all Abertawe a Chymru fforddio golli swyddi o'r fath, yn enwedig yn dilyn cyhoeddiad Unilever fis diwethaf fod 250 o swyddi yn y fantol."

Straeon perthnasol

  • Unilever: Galw am drafodaethau