Norofirws: 29 yn dangos symptomau
- Published
Mae Ysbyty Maelor Wrecsam wedi dweud na all chwe ward dderbyn cleifion newydd oherwydd achosion norofirws.
Erbyn dydd Mercher roedd 29 o bobl yn dangos symptomau o'r haint, sef dolur rhydd a chyfogi.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nad oedd hi'n arferol i bobl ddiodde' o'r haint yn ystod misoedd yr haf.
Mae'r norofirws ag effeithiau amhleserus ond nid yw'n para'n hir.
Gall achosi dolur rhydd a chwydu ond mae'r mwyafrif yn gwella o fewn dau neu dri diwrnod.
Mae'n cael ei drosglwyddo'n hawdd o un claf i'r llall os ydyn nhw'n agos at ei gilydd a dyna pam mae'n digwydd yn aml mewn ysgolion, ysbytai a gwestai.
Polisi
Polisi ysbytai mewn achosion o'r fath yw :-
- Cyfyngu ar symudiadau cleifion o'r wardiau perthnasol er mwyn atal y firws rhag lledu i rannau eraill o'r ysbyty;
- Cyfyngu ar fynediad i'r wardiau perthnasol er mwyn rhwystro mwy o gleifion rhag datblygu'r firws (tan 48 awr wedi i'r claf olaf ddangos symptomau o'r firws).
Mae'r bwrdd iechyd wedi gofyn i'r cyhoedd beidio â mynd i Ysbyty Maelor Wrecsam os ydyn nhw wedi diodde' o ddolur rhydd neu gyfogi yn ystod y 48 awr blaenorol.
Dylai ymwelwyr ddefnyddio hylif golchi dwylo cyn mynd i mewn i ward.
Yn ogystal, dylai unrhyw un sydd wedi diodde' symptomau, ac oedd i fod i fynd i'r ysbyty fel claf, ffonio'r ward neu'r adran berthnasol cyn dod i'r ysbyty fel y gall trefniadau gael eu gwneud i leihau risg i gleifion eraill.
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Rhagfyr 2011
- Published
- 20 Rhagfyr 2010
- Published
- 2 Rhagfyr 2010
- Published
- 31 Rhagfyr 2009