Signal ffôn yn helpu achub dau ddyn
- Cyhoeddwyd

Defnyddiodd Gwylwyr y Glannau signal ffôn symudol i achub dau ddyn gafodd eu dal ar Ben Pyrod yn Y Gŵyr.
Derbyniodd Gwylwyr y Glannau alwad gan ffôn symudol un o'r dynion am 1.45 am fore Mercher ond methodd y dyn â dweud dim byd am fod y signal mor wan.
Ond cafodd gwybodaeth o signal y ffôn ei defnyddio i ddarganfod lleoliad y dynion.
Yna gwelodd Gwylwyr y Glannau olau ar Ben Pyrod ym Mae Rosili a chafodd y dynion eu hachub gan hofrennydd y Llu Awyr am 4.15 am.
Ni chafodd y dynion, sy'n hanu o Abertawe, eu hanafu.
Niwl
Dywedodd Steve Matthews, rheolwr Gwylwyr y Glannau Abertawe, fod y ddau ddyn, sydd yn eu 30au a 40 au, wedi bod yn pysgota am grancod ar hyd Pen Pryd pan ddaeth y llanw i mewn a phenderfynon nhw ddychwelyd i'w car.
"Ond disgynnodd niwl a chollon nhw gyswllt â ble'r oedden nhw cyn penderfynu dringo i dir uchel," meddai Mr Matthews.
"Yn anffodus wrth i'r dŵr lifo dros y sarn doedden nhw fethu â dod oddi ar Ben Pryd.
"Fe wnaethon nhw'r peth cywir gan ddringo i dir uchel a galw 999 gan ofyn am Wylwyr y Glannau.
"Yn ffodus roedd ganddynt ddigon o signal i'n galluogi i'w lleoli."