Cyn arwr Cymru Jack Matthews wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-ganolwr rygbi Cymru a'r Llewod, Dr Jack Matthews, wedi marw yn 92 oed.
Roedd yn rhan o bartneriaeth enwog yng nghanol cae i Gymru gyda Bleddyn Williams.
Roedd yn chwarae gyda Chaerdydd a Chasnewydd yn ogystal â Chymru a'r Llewod.
Bu hefyd yn feddyg ar daith y Llewod i Dde Affrica yn 1980.
Derbyniodd yr OBE yn 2001 wedi iddo ennill 17 cap i Gymru.
Roedd yn gapten ar y tîm yn erbyn Ffrainc ym Mharis yn 1951.
Bu hefyd yn gapten clwb Caerdydd am bedwar tymor.
Chwaraeodd mewn chwe gêm brawf i'r Llewod ar y daith i Awstralia a Seland Newydd yn 1950, ac fe gafodd y llysenw "Iron Man" oherwydd ei daclo caled.
Dywedodd y newyddiadurwr chwaraeon, Peter Jackson, ei fod yn ddarllenwr papur newydd brwd ac y byddai'n cysylltu gyda fo i drafod gemau.
Rocky Marciano
"Roedd yn addysg wych i mi," meddai.
"Cefais gyfle i'w adnabod yn dda."
Eglurodd Mr Jackson bod Dr Jack wedi ymladd yn erbyn Rocky Marciano yn ystod y rhyfel.
Roedd Marciano gyda byddin America yn Sain Tathan yn 1943.
Dywedodd Llywydd Undeb rygbi Cymru, Dennis Gethin, bod Dr Jack yn "gymeriad gwych".
"Roedd yn anrhydedd ei adnabod a bod yn ei gwmni a thrafod yr hen ddyddiau.
"Yn anffodus welwn ni fyth rhywun fel yma eto.
"Roedd pawb yn caru Jack."