Cadeirydd Clwb Pêl-Droed Casnewydd wedi gadael wedi 10 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Ar ôl 10 mlynedd fel Cadeirydd Clwb Pêl-droed Casnewydd mae Chris Blight wedi gadael.
Fe wnaeth awgrymu bod sylwadau sarhaus cefnogwyr tuag ato yn ffactor yn ei benderfyniad.
"Gyda chalon drom dwi'n gadael fel cadeirydd a chyfarwyddwr," meddai.
"Mae digwyddiadau diweddar o fewn y clwb wedi dod â nhw i sylw'r wasg leol a sylw'r cefnogwyr, rhai yn ffafriol a rhai i'r gwrthwyneb."
Mae 'na adroddiadau bod Blight wedi derbyn galwadau ffôn sarhaus, ar ei ffôn symudol ac yn ei gartref, gan unigolion anhapus ei fod wedi atal buddsoddiad newydd posib i'r clwb.
'Symud cartre'
Mae Blight wedi gweld y clwb yn esgyn i Uwchgynghrair Blue Square a symud o'i maes ar Barc Spytty i rannu maes a chyfleusterau gyda Chlwb Rygbi'r Dreigiau yn Rodney Parade.
"Ar yr un pryd, dwi'n gadael fel cyfarwyddwr ar fwrdd y Gynghrair Bêl-Droed," ychwanegodd y gwerthwr tai.
"Fe fydd fy ymadawiad yn cynnig cyfle i chwilio a phenodi cadeirydd newydd er mwyn cychwyn y tymor yn Rodney Parade.
"Fel cadeiryddion clybiau eraill ar hyd y wlad, dwi'n gwybod bod rhaid derbyn y 'da a'r drwg'.
"Dwi eisiau diolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r clwb yn ystod fy nghyfnod gan gynnwys gwaith caled diflino'r gwirfoddolwyr yr ydym mor ddibynnol arno."