Dyfodol ansicr i reilffordd fach yn Y Friog

Published
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
image captionMae'r rheilffordd yn Y Friog ger Y Bermo wedi lansio 'cronfa argyfwng'

Mae dyfodol rheilffordd fach yng Ngwynedd sydd wedi bodoli er 1895 dan fygythiad oherwydd llawer llai o deithwyr.

Eisoes mae'r rheilffordd yn Y Friog ger Y Bermo wedi lansio "cronfa argyfwng" mewn ymgais i arbed swyddi.

Mae rheolwyr wedi dweud bod y cwmni yn gwneud colled o £40,000 y flwyddyn.

Tan yn ddiweddar dilynwr brwd, yr Athro Tony Atkinson, oedd yn talu'r ddyled ond fe fu farw'r llynedd.

Diswyddo

Y gobaith yw y bydd cefnogwyr yn helpu cadw'r rheilffordd ar agor.

Mae'r rheolwyr yn gobeithio na fydd gweithwyr yn colli eu swyddi ond cafodd aelod staff ei ddiswyddo ym mis Hydref.

Yn ôl gwefan y rheilffordd: "Mae dyfodol Rheilffordd Y Friog yn y fantol.

"... os bydd rhaid cwtogi'r amserlen bydd y penderfyniad hwn yn effeithio ar fusnesau eraill, gan gynnwys gwasanaeth fferi'r Bermo."

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol