Bore cymysg i Forgannwg yn erbyn Caint

James Harris
Image caption Yn achosi problemau: James Harris

Cafodd Morgannwg fore cymysg ar ddiwrnod cyntaf eu gêm yn erbyn Caint yng Nghaergaint yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd ddydd Iau.

Achosodd James Harris broblemau i agorwyr y tîm cartref cyn iddo gipio wiced cyn-fatiwr Lloegr a chapten Caint, Robert Key, gafodd ei ddal gan y wicedwr Mark Wallace am 14 rhediad.

Collodd Caint eu hail wiced ar ôl sgorio 49 pan lwyddodd Harris a Wallace i ddisodli Ben Harmison am 12 rhediad.

Ond batiodd yr agorwr Sam Northeast (47 heb fod allan) a Nash (23 heb fod allan) yn gadarn wrth i Gaint gyrraedd 98 am ddwy wiced erbyn amser cinio.

Cipiodd Harris ddwy wiced am 29 rhediad oddi ar 10 pelawd.

Enillodd Morgannwg eu gêm gyntaf yn yr Ail Adran eleni wedi iddyn nhw guro Sir Northampton ddydd Mawrth.

Ond maen nhw dal ar waelod yr adran.

Caint v Morgannwg (Diwrnod cyntaf - cinio)

Caint: (Batiad cyntaf): 98-2

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.