Protest llaeth: Dirprwy weinidog yn rhybuddio ffermwyr
- Cyhoeddwyd

Mae Dirprwy Weinidog Amaeth Cymru yn rhybuddio ffermwyr i beidio â gwastraffu llaeth fel protest yn erbyn prisiau.
Cafodd y syniad ei grybwyll mewn cyfarfod yn Llandeilo nos Iau wrth i gannoedd o ffermwyr eraill wrthdystio yn Lloegr.
Mae 'na gwyno am archfarchnadoedd ond y nhw sy'n talu orau, yn ôl Consortiwm Manwerthu Prydain.
Nia Thomas yn holi Gareth Thomas a fu'n protestio tu allan i ganolfan prosesu llaeth
Roedd dros 200 o ffermwyr yn bresennol yn y cyfarfod gan wrando ar Alun Davies yn y cyfarfod oedd yn cael ei gadeirio gan aelodau etholedig Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Rhodri Glyn Thomas a Jonathan Edwards.
Fe addawodd y tri gwleidydd wrando ar bryderon y ffermwyr.
Ac fe ddywedodd y gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud popeth bosib i helpu'r diwydiant llaeth.
Ychwanegodd na fyddai'r ffermwyr yn cael cefnogaeth y cyhoedd petai llaeth yn cael ei wastraffu mewn protest.
Gwlad yr Haf
Ar adegau roedd y cyfarfod yn un emosiynol gyda sylwadau dig gan rai ffermwyr oedd yn galw am bris teg am y llaeth.
Roedd y ffermwyr yn galw ar wleidyddion i drafod gyda phroseswyr llaeth ac archfarchnadoedd i sicrhau nad oedd cynhyrchwyr llaeth yn diodde'.
Dwysau y mae protestiadau ffermwyr yn erbyn y pris y maen nhw'n ei gael gan rai proseswyr am eu cynnyrch.
Dros nos mi fuodd na wrthdystiadau y tu allan i dair canolfan brosesu yn Lloegr ac roedd ffermwyr o Gymru ymhlith y cannoedd fu yn hufenfa Robert Wiseman yng Ngwlad yr Haf.
Dywedodd llefarydd ar ran hufenfa Robert Wiseman, eu bod nhw'n deall cryfder teimlad y ffermwyr ond nad oeddan nhw mewn sefyllfa i godi'r pris i ffermwyr ar hyn o bryd.
Un oedd yn y cyfarfod yn Llandeilo oedd Meirion Williams o San Clêr.
Colli ffydd
Mae wedi colli ffydd yn y diwydiant.
"Yn anffodus, rydyn ni yn nwylo'r rhai sy'n prynu'r llaeth a does 'na ddim byd allwn ni wneud fel unigolion," meddai.
"Mae'n rhaid i ni adael i'r cyhoedd wybod beth yw'r gwerth a bod y cynnyrch gorau ganddon ni.
"Yn anffodus, ry'n ni'n cael pris lot llai na mae'n costio i ni gynhyrchu a dyw e ddim yn mynd i barhau.
"Digon hawdd i'r gwleidyddion ddod yma ... ond dyw dweud rhywbeth fan hyn a phawb yn mynd gatre' yn hapus ddim yn mynd i ddigwydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012