Apêl am grysau glas Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae cefnogwyr Clwb Pêl Droed Caerdydd wedi ysgrifennu llythyr agored at berchennog y clwb yn ei annog i wrthdroi'r penderfyniad i newid lliw eu crysau o las i goch.
Mae'r cefnogwyr yn honni bod y clwb yn awr yn "destyn sbort" ers i'r cynllun gael ei ddatgelu.
Mae tua 400 cefnogwr o Ymgyrch Cadw Caerdydd yn Las wedi cefnogi'r llythyr gafodd ei anfon at Vincent Tan.
Mae'r newid lliw yn rhan o becyn i ariannu'r clwb i'r dyfodol.
'Annerbyniol'
Dywed y llythyr, gafodd ei gyfieithu i'r iaith Malai: "Rydym am i chi wybod fod cael gwared â hunaniaeth draddodiadol, hanesyddol Dinas Caerdydd yn teimlo fel sarhad i nifer o ddilynwyr selog y clwb.
"Rydym yn teimlo nad oedd unrhyw fwriad i ddwyn anfri, ond cafwyd ymateb dirmygus yn ne Cymru a gweddill y byd i'r penderfyniad i ail-frandio clwb bêl droed gymunedol."
Yn ôl y llythyr roedd y penderfyniad i newid lliw'r crysau i wneud y gorau o'r brand a chreu incwm yn y marchnadoedd rhyngwladol yn "annerbyniol" i nifer o gefnogwyr Dinas Caerdydd.
"Mae Dinas Caerdydd yn awr yn gyff-gwawd i nifer o bobl ac mae'r enw yn gyfystyr â phob un o'r problemau sy'n gysylltiedig â'r gêm gyfredol," meddai'r llythyr.
Hyd yn hyn mae Caerdydd wedi gwisgo crysau glas ag arfbais gyda llun o Aderyn Glas wrth iddyn nhw chwarae eu gemau cartref.
Ond cadarnhaodd y clwb y byddai lliw'r crysau yn newid ym mis Mehefin eleni wedi trafodaethau rhwng cyfarwyddwyr y clwb a buddsoddwyr o Malaysia Vincent Tan a Dato Chan Tien Ghee.
Dywedodd y Prif Weithredwr Alan Whiteley y byddai'r syniad yn helpu'r Adar Gleision i ehangu eu hapêl.
Mae'r buddsoddwyr o Falaysia hefyd yn bwriadu buddsoddi £100 miliwn er mwyn ehangu'r stadiwm, maes hyfforddi newydd a chwaraewyr newydd a dod i'r afael â dyled hirdymor sy'n ddyledus i gwmni Langston.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012
- Cyhoeddwyd9 Mai 2012
- Cyhoeddwyd9 Mai 2012
- Cyhoeddwyd11 Mai 2012