Signal ffôn yn dychwelyd i bentref Llanpumsaint
- Cyhoeddwyd

Mae pentrefwyr Llanpumsaint sydd wedi bod heb wasanaeth ffôn symudol ers bron i chwe wythnos yn dweud bod y rhwydwaith yn gweithio eto.
Honnodd rhai o drigolion y pentref fod y broblem wedi effeithio ar fywoliaeth rhai ohonyn nhw.
Dim ond un rhwydwaith dibynadwy sydd ar gael yno, sef Orange.
Ond doedd ddim signal wedi bod yno ers Mehefin 8 yn sgil problemau technegol.
Llythyr
Honnwyd mai problem gyda mast yn Alltwalis oedd ar fai.
Ond yn ôl Huw Davies, peiriannydd sain, sy'n dibynnu ar ei ffôn symudol er mwyn trefnu gwaith gyda chwmnïau teledu, fe ddychwelodd y signal ddydd Iau.
Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd Mr Davies wrth BBC Cymru ei fod wedi colli tridiau o waith am nad oedd wedi derbyn negeseuon ffôn.
Dydd Gwener, dywedodd fod y rhwydwaith wedi dechrau gweithio eto tua 11am ddydd Iau.
"Y peth od yw, fe dderbyniais lythyr gan gwmni Orange fore Iau yn dweud eu bod yn gobeithio y byddai'r rhwydwaith yn gweithio eto erbyn Hydref 31 eleni.
"Felly dwi ddim yn sicr os yw'r signal wedi dychwelyd dros dro ai peidio.
"Yn ôl Orange, mae angen cyswllt lloeren radio newydd felly mae'n bosib fe fyddwn ni'n colli'r signal eto."
Mae BBC Cymru wedi gofyn i gwmni Orange am eu sylwadau ynglŷn â'r mater.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2011
- Cyhoeddwyd1 Medi 2010
- Cyhoeddwyd7 Awst 2009