Darganfod e.coli mewn cwmni gwastraff bwyd

  • Cyhoeddwyd
bacteria E. coliFfynhonnell y llun, AFP/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, does dim 'perygl iechyd ehangach i'r cyhoedd'.

Mae E. coli a salmonela mewn cwmni compostio bwyd yn Sir Fynwy, yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd.

Mae trwydded amgylcheddol cwmni WormTech yng Nghaerwent wedi ei gwahardd.

Dywedodd y cwmni eu bod yn cydweithio â'r asiantaeth.

Mae WormTech yn ailgylchu gwastraff i nifer o awdurdodau lleol, gan gynnwys Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent.

'Dim perygl'

Dywedodd yr awdurdodau lleol na fyddai effaith ar gasgliadau gwastraff bwyd.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, nid oes "perygl iechyd ehangach i'r cyhoedd".

Dywedodd yr asiantaeth fod swyddogion wedi dod o hyd i drwytholchion, sy'n cael eu cynhyrchu gan y broses gompostio, ar wal adeilad lle oedd gwastraff bwyd yn cael ei dderbyn.

Mae'r asiantaeth wedi cyflwyno rhybudd yn atal trwydded amgylcheddol WormTech sy'n golygu na all y cwmni brosesu unrhyw wastraff tan iddyn nhw brofi eu bod wedi selio'r wal.

Bob blwyddyn mae'r cwmni wedi'u lleoli ar safle hyfforddi'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn prosesu 10,000 tunnell o fwyd a gwastraff gwyrdd.

Dywedodd y cwmni: "Rydym yn cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd ac yn gofyn am fwy o amser i ymdrin â'r sefyllfa."

Mae'r cynghorau wedi dweud bod cynlluniau wrth gefn mewn lle ac na fyddai unrhyw effaith ar gasgliadau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol