Trundle yn arwyddo cytundeb blwyddyn gyda Preston North End
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-chwaraewr Abertawe, Lee Trundle, wedi arwyddo cytundeb blwyddyn gyda Preston North End.
Doedd gan y chwaraewr 35 oed ddim clwb ar ôl i Glwb Castell-nedd ddod i ben oherwydd penderfyniad r Uchel Lys ym mis Mai.
Roedd Trundle, sydd wedi sgorio dros 100 o goliau yn y gynghrair, ar gyfnod prawf yn Deepdale ac yn chwarae mewn dwy gêm gyfeillgar cyn dechrau'r tymor newydd.
Mae'r pêl-droediwr a anwyd yn Lerpwl wedi chwarae i dimau Wrecsam a Bristol City.
'Hynod falch'
"Dwi'n hynod falch o ymuno â chlwb mor fawr," meddai ar wefan y clwb.
"Er ein bod yn yr Adran Gyntaf, fe ddylai'r clwb fod yn llawer uwch a dwi'n gobeithio chwarae fy rhan y tymor yma i weld y clwb yn esgyn."
Dywedodd Cadeirydd Preston, Peter Ridsdale, fod perfformiad Trundle yn y ddwy gêm gyfeillgar wedi creu argraff ar y rheolwr a'r cefnogwyr.
"Dwi'n falch ei fod wedi cytuno i ymuno â ni.
"Mae eisiau bod yn rhan o rywbeth arbennig iawn yn Preston North End."