Cychwyn Y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd

  • Cyhoeddwyd
Prif Gylch y Sioe Frenhinol (Llun gan Iolo ap Dafydd)Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd gwelliannau eu gwneud i brif gylch y Sioe yn 2011

Mae disgwyl dros 200,000 o bobl i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru dros y pedwar niwrnod nesaf.

Ar ddiwrnod cyntaf y Sioe fe fydd y Gweinidog Amaeth, Jim Paice a'r Ysgrifennydd Amgylchedd Caroline Spelman yn trafod cwynion amaethwyr am brisiau llaeth.

Mae'r Sioe Fawr ymlaen tan ddydd Iau.

Dacian Ciolos, sydd â chyfrifoldeb am amaeth yng Nghomisiwn Ewrop, sy'n agor y Sioe, digwyddiad amaethyddol mwyaf y Deyrnas Unedig.

Ymhlith y gwleidyddion eraill yno ddydd Llun y mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones; Dirprwy Weinidog Amaeth Cymru Alun Davies ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan.

Ar ddiwrnod cyntaf y sioe, cyhoeddodd mudiad Hybu Cig Cymru fod gwerth £200 miliwn o gig oen ac eidion wedi ei allforio'r llynedd, mwy nag erioed o'r blaen.

"Mae hwn yn newyddion gwych, ac yn arbennig o bwysig i'n heconomi ar adeg mor anodd," meddai Mr Davies.

"Mae cig o Gymru yn cael ei glodfori ymysg y gorau yn y byd."

Aeth dros 227,500 o ymwelwyr i'r Sioe y llynedd, gan sicrhau elw o £207,391.

Mae'r trefnwyr yn ffyddiog bod rhagolygon o dywydd braf yn mynd i ddenu'r tyrfaoedd eto.

'Gwefr'

"Bydd gennym dda byw gorau Prydain, yn cynnwys arddangosfeydd trawiadol o ferlod a chobiau Cymreig brodorol, yn ogystal â'r arddangosfa fwyaf o fridiau defaid yn unrhyw le yn y byd," meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol.

"Bydd cyfle i wylio anifeiliaid â'u cotiau'n sgleinio a'u tywyswyr yn eu cotiau gwyn yn cystadlu am y wefr o ennill gwobr pencampwriaeth y Sioe Fawr."

Y sir nawdd eleni yw Brycheiniog.

Fe wnaeth y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol elw o dros £264,868 y llynedd.

Er gwaetha'r dirwasgiad, bu 2011 yn flwyddyn lwyddiannus i'r gymdeithas, gyda'r Sioe Fawr, y Ffair Wanwyn a'r Ffair Aeaf i gyd wedi gwneud elw.

Yn ystod 2011, fe godwyd dros £220,000 i dalu am brif gylch newydd a chafodd Canolfan Aelodau newydd ei hagor.