Cwrs Cymraeg newydd i helpu teuluoedd

  • Cyhoeddwyd
Ysgrifennu CymraegFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Rhoddwyd £99,374 gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r cwrs

Mae cwrs newydd i helpu rhieni a theuluoedd i ddysgu Cymraeg gyda'u plant yn cael ei lansio yn Sioe Frenhinol Cymru.

Bydd y cwrs Cymraeg i Deuluoedd, sydd wedi'i deilwra'n arbennig, yn cael ei redeg gan Ganolfannau Cymraeg i Oedolion.

Cafodd ei ddatblygiad £99,374 gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cwrs yn bennaf ar gyfer rheini a'r teulu estynedig sydd am ddysgu Cymraeg er mwyn gallu rhyngweithio â'u plant sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg neu sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol neu'r ysgol feithrin.

Mae deunyddiau ar gyfer y cwrs yn cynnwys gêm fwrdd, llyfr gwaith cartref a chryno ddisg er mwyn i'r rhieni allu dysgu Cymraeg gyda'u plant drwy chwarae, canu a helpu gyda gwaith cartref.

120 o oriau

Mae'r cwrs 120 o oriau yn addas ar gyfer y rheini sydd â dim neu ychydig bach o Gymraeg a byddai gan amlaf yn cael ei ddysgu am ddwy awr yr wythnos dros gyfnod o ddwy flynedd, ond mae fersiwn mwy dwys ar gael.

Dywedodd Helen Prosser o Ganolfannau Cymraeg i Oedolion, bod gallu siarad Cymraeg er mwyn helpu eu plant i ddysgu a rhoi help llaw gyda gwaith ysgol yw'r prif reswm sy'n cael ei roi gan oedolion sydd am ddysgu Cymraeg.

"Mae'r cwrs wedi'i ddatblygu'n arbennig gan ystyried hynny ac mae wedi'i gynllunio gyda phwyslais ar gael hwyl a mwynhau.

"Mae'r cwrs wedi'i ddatblygu gan CBAC a gellir ei gwblhau dros gyfnod o ddwy flynedd neu ar amserlen fwy dwys."

'Cefnogi'

Yn ôl Leighton Andrews, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg: "Mae Llywodraeth Cymru eisiau cefnogi pobl sydd am ddysgu'r iaith a'i defnyddio gyda'u plant sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg neu sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith.

"Mae'r cwrs yn cefnogi ein Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg drwy roi cyfleoedd i blant ddefnyddio Cymraeg yn y cartref ac mae'n cefnogi teuluoedd cyfan i ddatblygu sgil gyda'i gilydd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol