Cyhuddo o droseddau yn ymwneud â therfysgaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 31 oed o Gaerdydd wedi bod o flaen Ynadon Westminster wedi ei gyhuddo o droseddau yn ymwneud â therfysgaeth.
Fe gafodd Norman Faridi ei arestio yn ardal Y Waun Ddyfal ddydd Iau ar ôl ymchwiliad gan swyddogion o unedau Gwrth-derfysgaeth ac Eithafiaeth Cymru a Phrydain.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn dychwelyd i'r llys ar Awst 16.
Dywedodd yr heddlu nad oedd hyn yn gysylltiedig â'r Gemau Olympaidd.