Apêl wedi 'marwolaeth amheus'
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi "marwolaeth amheus" nos Sadwrn.
Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd y Traeth, Prestatyn, Sir Ddinbych am 9.48pm, am fod rhywun yn poeni bod cerbydau yn cael eu gyrru'n 'afreolaidd'.
Wedi ffrae rhwng dyn 42 oed a phobl yn y cerbydau, fe wnaeth y dyn gwympo i'r llawr.
Galwyd ambiwlans ond bu farw yn y fan a'r lle.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r heddlu ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol