Llai wedi eu dal yn gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau

  • Cyhoeddwyd
Offer profi anadl gyrwyrFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Dywed yr heddlu bod hi'n bwysig dal i godi ymwybyddiaeth am beryglon yfed a gyrru

Mae nifer y rhai gafodd eu dal yn yfed a gyrru yn ystod ymgyrch haf ar draws Cymru wedi gostwng o'i gymharu â 2011.

Roedd cyfanswm o 360 o bobl wedi profi'n bositif i alcohol neu gyffuriau, 1.9% o'r 19,277 a brofwyd yn ystod mis Mehefin.

Yn 2011 fe wnaeth 2.5% brofi'n bositif a gafodd ei ddisgrifio gan yr heddlu ar y pryd fel ffigwr "brawychus".

Ond dywedodd swyddogion bod angen mwy o ymwybyddiaeth o hyd.

Yn ardal Heddlu De Cymru yr oedd y nifer mwya' o yrwyr wnaeth brofi'n bositif am gyffuriau neu alcohol (4%) tra bod y nifer isa' yn ardal Heddlu Gogledd Cymru.

Mae'n bwysig parhau i dynnu sylw at beryglon gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, meddai'r Prif Gwnstabl Jackie Roberts o Heddlu Dyfed Powys a oedd yn arwain yr ymgyrch.

'Dewis syml'

"Mae'n bwysig ein bod yn cyfleu'r neges bod gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn annerbyniol a'i fod yn rhoi eraill mewn perygl.

"Allwn ni ddim cyfrifo'n rhwydd faint allwn ni yfed ac yna gyrru ac mae hynny yn wir am y bore canlynol.

"Mae'n ddewis syml, allwch chi un ai yfed neu yrru."

Dywedodd Suan Storch o Ddiogelwch Ffyrdd Cymru, bod y canlyniadau yn dangos pa mor bwysig yw hi i barhau i gydweithio er mwyn addysgu gyrwyr o'r peryglon.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol