Lori olew wedi troi drosodd ar yr A48
- Cyhoeddwyd
Mae lori yn cludo gwastraff olew wedi troi drosodd ar yr A48 yng Nghasnewydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad toc cyn 7.50am ddydd Llun.
Roedd 'na adroddiadau cynnar bod y cerbyd ar dân.
Cafodd 14 o gerbydau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu hanfon i'r lleoliad.
Roedd y gwasanaeth ambiwlans, yr heddlu a swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd yn bresennol.
Llwyddodd y gyrrwr i ddianc yn ddianaf.
Bu'r ffordd rhwng Afon Wysg a Ffordd Nash ynghau wrth i'r gwaith clirio barhau ond cafodd ei hailagor yn ddiweddarach brynhawn dydd Llun.
Yn y cyfamser, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cychwyn ar y gwaith o glirio'r olew oddi ar y ffordd.
Maen nhw'n defnyddio offer arbennig i sicrhau nad yw'r olew yn mynd i ddraeniau a chyrsiau dŵr.