Plant ysgol o Gymru yn rhan o Osgordd Olympaidd
- Cyhoeddwyd
Bydd dros 50 o blant ysgol o Gymru yn rhan o osgordd o anrhydedd ar gyfer athletwyr y Gemau Olympaidd.
Mae cyfanswm o 2,000 o blant o 250 ysgol ar draws y DU yn cymryd rhan.
Fe fydd y plant yn sefyll mewn rhes ar hyd y ffordd wrth i gystadleuwyr fynd drwy'r Parc Olympaidd ar eu ffordd i'r Stadiwm nos Wener.
Bydd saith ysgol o Gymru yn anfon wyth plentyn yr un i fod yn rhan o'r osgordd.
Yr ysgolion o Gymru fydd yn rhan o'r osgordd y mae Ysgol Gyfun Heolddu ym Margoed; Ysgol Gyfun Y Coed Duon; Ysgol Gynradd Springwood, Caerdydd; Ysgol Gynradd Llangynfelyn, ger Aberystwyth; Ysgol John Bright, Llandudno; Ysgol Esgob Morgan, Llanelwy ac Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda.
Bydd y plant yn dal baneri a lanterni y maen nhw wedi eu creu i gefnogi'r 204 tîm sy'n cymryd rhan.
Baner wag
Mae'r ysgolion yn rhan o rwydwaith Bydd Barod ac maen nhw wedi bod yn gweithio ar wahanol brosiectau ar gyfer y Gemau Olympaidd.
Mae Ysgol Gynradd Llangynfelyn, ger Aberystwyth, yn cefnogi Denmarc yn ystod y Gemau.
Dywedodd pennaeth cynorthwyol yr ysgol, Rhian Nelmes, bod y plant wedi bod yn dysgu am y wlad ac wedi gwneud cysylltiad gydag ysgol yno.
"Anfonwyd baner wag atom ac mae'r plant wedi ysgrifennu Denmarc arno ac wedi tynnu lluniau pethau sy'n gysylltiedig â'r wlad arno, fel Hans Christian Andersen, ffîordau a siâp y wlad," meddai Ms Nelmes.
Dywedodd Richard Hatwood o Ysgol Esgob Morgan yn Llanelwy bod y plant "wedi gwirioni" ac yn edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan.
"Rydym wedi bod yn gweithio gydag Ysgol St Ignatius ar Ynysoedd y Cayman, ac maen nhw wedi anfon crysau-t a hetiau swyddogol atom, ac rydyn ni wedi anfon crysau-t, bathodynnau, baneri Cymraeg a mapiau atyn nhw."
Dywedodd Mr Hatwood bod enwau'r rhai fydd yn mynd i Lundain wedi cael eu tynnu allan o het a bod yn rhaid iddyn nhw fod yn 10 mlwydd oed neu'n hŷn.
Yn ogystal â chroesawu rhai o athletwyr gorau'r byd, bydd y plant hefyd yn cael taith o amgylch y Parc Olympaidd a gweld rhai o leoliadau eraill Llundain 2012.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd28 Mai 2012
- Cyhoeddwyd25 Mai 2012