Dyffryn Nantlle: Noson gyfan i achub dringwyr
- Cyhoeddwyd

Cafodd timau achub eu galw i Gwm Silyn tua 9pm nos Sul
Fe dreuliodd timau achub mynydd noson gyfan yn ceisio achub dau ddringwr oedd wedi mynd i drafferthion yn Nyffryn Nantlle.
Cafodd 12 aelod o dîm Aberglaslyn ac eraill o dîm Llanberis eu galw i Graig yr Ogof, Cwm Silyn tua 9:00pm nos Sul.
Roedd dyn a dynes yn dweud eu bod wedi mynd i drafferthion ac yn methu dringo i fyny nac i lawr o'r graig lle oedden nhw.
Troi'n ôl
Fe anfonodd yr Awyrlu hofrennydd Sea King ond oherwydd gwyntoedd cryfion a chymylau isel bu'n rhaid iddi droi'n ôl.
Bu'r timau achub wedyn yn gweithio trwy'r nos i geisio cyrraedd y dringwyr a llwyddo i'w hachub tua 6:00am ddydd Llun.
Dywedodd aelod o dîm Aberglaslyn fod y ddau yn ddringwyr profiadol a bod eu hoffer yn addas.
Chafodd neb ei anafu.