Ailagor A44 wedi damwain ddifrifol
- Cyhoeddwyd
Mae'r A44 wedi ailagor wedi damwain ddifrifol rhwng yr A483 (Y Crwys) a'r A470 (Rhaeadr Gwy).
Roedd y ddamwain am 12.35pm a chafodd tri eu hanafu.
Dywedodd y gwasanaethau brys fod gwrthdrawiad rhwng dau gar ger Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yn Nantmel.
Roedd yr A44 ar gau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod ac roedd hyn yn effeithio ar draffig rhwng Llanllieni a Rhaeadr Gwy.
Cafodd y ffordd ei hailagor am 8.40pm nos Lun.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol